2023-25 Deialog Ddigidol: Cymru Adroddiad Effaith

Crynodeb gweithredol

Cyflwyniad

Mae Deialog Ddigidol: Cymru, sy’n cael ei gyflwyno gan y Politics Project a’i ariannu gan Gronfa Ymgysylltu â Democratiaeth Llywodraeth Cymru, yn cefnogi sgyrsiau ystyrlon a gwybodus rhwng pobl ifanc a'u cynrychiolwyr etholedig. 

Mae pobl ifanc yn magu’r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy sesiynau o ryngweithio gwybodus. Mae'r rhaglen yn cymryd pedair awr addysgu i'w darparu, gyda thair awr wedi'u neilltuo ar gyfer gweithdai ac awr ar gyfer sesiwn Deialog. Mae'r rhyngweithiadau hyn yn digwydd ar-lein a wyneb yn wyneb, mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn grymuso disgyblion ledled Cymru i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus – yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Pam mae'n bwysig

Mae cyfranogiad pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth yn dal i fod yn anghymesur o isel, gyda dim ond 37% o bobl 18–25 oed yn pleidleisio yn Etholiad Cyffredinol San Steffan yn 2024, o gymharu â 73% o bobl dros 65 oed.

Yng Nghymru, mae pobl ifanc yn nodi lefelau isel o ymddiriedaeth mewn gwleidyddion, anwybodaeth am Senedd Cymru, a llai o gymhelliant i ymgysylltu â gwleidyddiaeth ffurfiol. Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn mynd i'r afael â'r bwlch democrataidd hwn drwy greu mannau i bobl ifanc a gwleidyddion gael sgwrs ystyrlon am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc.

Learners at Penygarn Primary around a table in conversation with Cllr Jon Horlor during in person dialogue session.
Disgyblion yn Ysgol Gynradd Penygarn mewn sgwrs gyda Cyng Jon Horlor
Ysgol Gynradd Penygarn. (2025).

Yr hyn gyflawnodd Deialog Ddigidol: Cymru

Digwyddodd y cam hwn o'r rhaglen rhwng mis Mawrth 2023 a mis Ebrill 2025. Ynddo:

168
o sesiynau Deialog wedi’u cyflwyno
3832
o ddisgyblion wedi’u cynnwys
89
o athrawon wedi’u hyfforddi a’u
cefnogi
92
o wleidyddion wedi cymryd rhan

Cynhaliwyd 27% o'r sesiynau yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Roedd 8 o'r sesiynau Deialog yn Ddeialogau Arweinwyr, gan gysylltu disgyblion ag Arweinwyr Pleidiau’r Senedd.

Yn y cam hwn o'r rhaglen, fe wnaethon ni hefyd gynnal tri hysting ieuenctid yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol, er mwyn cynyddu mynediad pobl ifanc at ymgeiswyr oedd yn sefyll yn eu hetholaethau.

Effaith ar ddisgyblion

Gwybodaeth

Roedd y rhaglen yn gwella gwybodaeth wleidyddol disgyblion yn gyson. Ar ôl cymryd rhan, gwelwyd cynnydd o 20% yn y rhai a deimlai eu bod yn deall system wleidyddol Cymru. Disgyblion cynradd welodd y cynnydd mwyaf, gyda chynnydd o 23% yn eu dealltwriaeth o "rôl gwleidydd".

Ymddiriedaeth a pherthnasoedd

Cafodd y rhaglen effaith gref ar berthynas disgyblion gyda gwleidyddion, ac ymddiriedaeth ynddynt. Ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen, bu cynnydd o 9% o ran ymddiriedaeth mewn gwleidyddion a chynnydd o 17% yn nifer y bobl ifanc oedd yn teimlo bod gwleidyddion yn eu cynrychioli.

Sgiliau

Gwelwyd cynnydd o 17% yn nifer y disgyblion oedd yn cytuno eu bod yn “gwybod sut i holi gwleidydd” a chynnydd o 9% yn nifer y rhai oedd yn teimlo eu bod yn gwybod sut i ymchwilio i wleidydd.

Ymgysylltiad democrataidd

Daeth disgyblion hefyd yn fwy gweithgar yn wleidyddol, gyda chynnydd o 10% yn nifer y disgyblion a deimlai y gallent bleidleisio, a chynnydd o 11% yn y nifer a deimlai y gallant ddylanwadu ar newid yn y gymdeithas.

Canran y disgyblion sy'n 'Deall system wleidyddol Cymru'

Canran y disgyblion sy'n 'Gwynbod sut i holi gwleidydd'

“Galla i ddweud yn onest bod y prosiect yma wedi newid fy mywyd i...ac wedi agor fy llygaid i wleidyddiaeth.

Dw i wir yn ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth. Dw i nawr yn cymryd camau tuag at yrfa mewn gwleidyddiaeth a fyddwn i ddim yn gwneud hynny heblaw am y prosiect”
Disgybl, Ysgol y Bont-faen
"O’n i’n teimlo ei bod hi wedi pontio'r bwlch rhyngddyn nhw a ni ac roedden ni’n cael cyfle i gyfathrebu, ac fe sylweddolais i ein bod ni i gyd yn gallu dod at rywun sy’n gallu gwneud newidiadau."
Disgybl, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru

Effaith ar athrawon

Mwy o hyder

Elwodd athrawon a oedd yn cefnogi'r disgyblion o'r rhaglen hefyd. Aeth canran yr athrawon a deimlai fod ganddyn nhw hyder i gyflwyno cynnwys sy’n niwtral yn wleidyddol i ddisgyblion i fyny o 56% i 94%. Roedd cynnydd o 30% hefyd yn nifer yr athrawon a nododd fod ganddynt y sgiliau i annog ymgysylltiad gwleidyddol ymhlith disgyblion ar ôl cymryd rhan yn rhaglen Deialog Ddigidol: Cymru.

Dywedodd 100% eu bod yn teimlo'n hyderus ac yn barod i gyflwyno'r rhaglen, ac yn teimlo bod y Politics Project wedi’u cefnogi. Byddai 100% o athrawon yn argymell Deialog Ddigidol: Cymru i gydweithiwr.

Canran yr athrawon sy'n teimlo'n 'Hyderus yn cyflwyno cynnwys gwleidyddol niwtral'

Canran yr athrawon sy'n teimlo bod ganddyn nhw’r 'Sgiliau i annog ymgysylltiad gwleidyddol ymhlith disgyblion'

"Rydych chi wedi bod yn anhygoel, yn sicr mae wedi gwella ein hyder ac yn enwedig i fi fel athro sy'n trio sbarduno'r disgyblion yma a’u tynnu i mewn, dw i'n teimlo na fyddwn i byth wedi gallu cysylltu ag Aelodau Seneddol nac Aelodau’r Senedd heb y Politics Project."
Sarah Jenkins, athrawes, Ysgol Lewis Pengam
‍“​Mae yna lawer o ansicrwydd ymhlith cryn dipyn o athrawon o ran gofyn iddyn nhw gyflwyno rhywbeth gwleidyddol, ond dw i'n credu mai'r hyn sy'n dda am [y rhaglen] yw pa mor strwythuredig oedd hi ... rhoi sicrwydd iddyn nhw mai dysgu ffeithiau fel sut mae'r system yn gweithio ydyn ni, yn hytrach na dweud wrthyn nhw sut i bleidleisio.”
Gareth Jones, athro, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Effaith ar wleidyddion

Gwell dealltwriaeth

Roedd y gwleidyddion a gymerodd ran yn Deialog Ddigidol: Cymru yn adrodd effaith gadarnhaol. Dywedodd 100% fod y rhaglen wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o bobl ifanc a'u blaenoriaethau, gan adrodd am berthynas gryfach gyda'u hetholwyr.

At ei gilydd, cymerodd 47 o'r 60 o aelodau presennol y Senedd (78%) ran yn y rhaglen, gyda 28 yn ysgrifennu geirda ysgrifenedig am werth y rhaglen. Byddai pawb ohonynt yn argymell cymryd rhan yn y rhaglen i wleidyddion eraill.

"Mae cymryd rhan yn y rhaglen yma wedi cryfhau fy nghysylltiad i â phobl ifanc ac ysgolion yn fy etholaeth. Mae wedi rhoi cyfle gwerthfawr i glywed yn uniongyrchol gan ddisgyblion am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw, gan helpu i lywio fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd.

Mae'r sesiynau wedi caniatáu i fi gael dealltwriaeth ddyfnach o'u pryderon a'u blaenoriaethau nhw, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc mewn sgyrsiau gwleidyddol o oedran cynnar."
James Evans AS, Ceidwadwr
“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael cymryd rhan yn rhaglen Deialog Ddigidol sawl tro. Mae wedi caniatáu i fi ymgysylltu ag ysgolion yn fy rhanbarth yn y canolbarth a’r gorllewin yn Gymraeg ac yn Saesneg ac i glywed barn pobl ifanc ar faterion allweddol fel addysg, iechyd, yr amgylchedd, annibyniaeth ac ati.

Dw i'n mwynhau fy sesiynau Deialog Ddigidol ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael blaenoriaeth gan eu bod mor bleserus."
Jane Dodds AS, Democrat Rhyddfrydol

Effaith ar y gymuned

Cefnogi pleidleisio

Rhoddodd Deialog Ddigidol: Cymru hwb i hyder athrawon o ran cynorthwyo disgyblion gyda'r broses o gofrestru i bleidleisio. Ar ôl cymryd rhan, roedd 82% o athrawon yn teimlo’n hyderus yn “cefnogi disgyblion i gofrestru i bleidleisio”.

Gwreiddio’r rhaglen

Yn y cam hwn o raglen Deialog Ddigidol: Cymru fe welson ni’r rhaglen yn cael ei hymgorffori mewn ysgolion; cyflwynodd 40% o ysgolion y rhaglen ar draws grŵp blwyddyn cyfan.

Addewidion a newid yn y byd go iawn

Arweiniodd 36 o sesiynau Deialog at addewid – ymrwymiad gan wleidydd yn ystod sesiwn Deialog i wneud rhywbeth ar ran y disgyblion.

Roedd y rhain yn cynnwys cydlynu profiad gwaith, ailgynllunio prydau ysgol a chodi cwestiynau yn y Senedd. 

Arweiniodd hyn at gynnydd o ran ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth gan ddisgyblion drwy’r sesiynau ymgysylltu hyn. Roedd nifer y bobl ifanc oedd yn credu bod "gwleidyddion yn fy nghynrychioli ac yn rhannu fy marn", 15% yn uwch mewn Deialogau lle gwnaed addewid o gymharu â Deialogau lle na wnaed addewid.

Isod mae enghraifft o addewid a wnaed gan Lee Waters AS, lle addawodd y byddai pryderon disgyblion yn Ysgol Gynradd Bigyn ynghylch diffyg deintyddion gwasanaeth iechyd gwladol (GIG) yn Llanelli yn cael eu codi ganddo yn y Senedd.

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o addewidion.

Gwersi allweddol

Rydym wedi nodi'r gwersi allweddol canlynol yn sgil cyflwyno Deialog Ddigidol: Cymru.

Gofyn cwestiynau

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cael effaith fwy dwys ar ddisgyblion a ofynnodd gwestiwn yn ystod sesiwn Deialog. Roedd disgyblion 22% yn fwy tebygol o deimlo bod “gwleidydd yn malio am eu barn” os oeddent wedi gofyn cwestiwn ac roeddent 27% yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gweld y sesiwn yn ddiddorol. 

Mae hyn yn awgrymu bod disgyblion yn teimlo mwy o ymgysylltiad mewn sesiynau lle maen nhw’n cael cyfle i gymryd rhan weithredol, ac mae'n dangos effaith gadarnhaol ymgysylltiadau o dan arweiniad disgyblion lle mae disgyblion yn gallu trafod materion sy'n bwysig iddyn nhw.

Grwpiau canolig eu maint

Dangosodd grwpiau canolig eu maint (grwpiau o 21 i 40 o gyfranogwyr) effaith gadarnhaol fwy cyson ar draws dangosyddion o ran gwybodaeth, hyder ac ymddiriedaeth o gymharu â grwpiau bach (grwpiau o lai nag 20) neu grwpiau mawr (grwpiau o 41 neu fwy). 

Rydyn ni’n credu mai’r rheswm am hyn yw bod llai o gyfleoedd i gyfranogwyr ymgysylltu a gofyn cwestiynau mewn grwpiau mwy, a bod mwy o gyfleoedd i drafod mewn grwpiau canolig nag sydd mewn grwpiau llai. Mae hyn yn tynnu sylw at gyfaddawd allweddol rhwng maint ac ansawdd yr effaith yn y sesiynau hyn.

Disgyblion cynradd

Mae deialogau yr un mor effeithiol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4 i 6 o gymharu â sesiynau Deialog gyda disgyblion hŷn. A dweud y gwir, ar draws llawer o ddangosyddion, yn enwedig rhai'n ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth wleidyddol, arweiniodd y rhaglen at fwy o newid cadarnhaol i ddisgyblion cynradd. Bu cynnydd o 25% yn nifer y disgyblion Blwyddyn 4 i 6 a gytunai eu bod yn deall system wleidyddol Cymru ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen, o gymharu â chynnydd o 14% ymhlith disgyblion Blwyddyn 7 i 11 a chynnydd o 7% ymhlith disgyblion Blwyddyn 12 a 13.

Nid yn unig mae disgyblion cynradd yn elwa o raglen Deialog Ddigidol: Cymru, ond gall addysg ddemocrataidd ar oedran iau gael effaith fawr.

Sawl ymgysylltiad

Mae disgyblion sy'n cymryd rhan mewn tair sesiwn neu fwy yn gwella’u hyder yn fawr wrth rannu eu barn a thrafod materion sy'n bwysig iddyn nhw. Gwelodd disgyblion a gymerodd ran mewn un sesiwn gynnydd o 4% yn eu hyder wrth siarad am faterion roedden nhw’n poeni amdanynt, o gymharu â disgyblion a gymerodd ran mewn tair sesiwn neu fwy lle'r oedd y cynnydd yn 16%.

Mae dod i gysylltiad â nifer o wleidyddion, y profiad o lunio rhagor o gwestiynau iddynt ac ateb eu cwestiynau yn amlwg yn gwella hyder y disgyblion.

Casgliadau

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn dal i gynnig model effeithiol sydd wedi’i brofi ar gyfer cyflwyno addysg ddemocrataidd ar raddfa fawr. Mae'r rhaglen yn cefnogi pobl ifanc yn effeithiol i ymgysylltu â gwleidyddiaeth, yn helpu athrawon i deimlo'n hyderus wrth gyflwyno dysgu democrataidd, ac yn cryfhau'r berthynas rhwng gwleidyddion a'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Mae'r rhaglen yn parhau i fynd i'r afael yn effeithiol ag un o faterion mwyaf cymhleth ein hoes: meithrin ymddiriedaeth wleidyddol. Mae'n effeithiol o ran gwella gwybodaeth am systemau gwleidyddol a meithrin hyder a sgiliau pobl ifanc i ymgysylltu â gwleidyddion a'r system ddemocrataidd ehangach. 

Rydym hefyd yn gweld y rôl y gall y rhaglen ei chwarae o ran helpu ysgolion i ymgorffori addysg ddemocrataidd, gan arwain at ymgysylltiad hirdymor a chynaliadwy. Mae’r rhaglen yn cael cefnogaeth eang gan wleidyddion ac athrawon sy'n ei hystyried yn offeryn effeithiol ar gyfer addysg ac ymgysylltu. 

Wrth edrych ymlaen, mae cyfle clir i fapio ymgysylltiad gwleidyddol ledled Cymru a chydweithio â phartneriaid i sicrhau y gall pob person ifanc gael cyswllt ystyrlon â gwleidyddion yn ystod eu hamser yn yr ysgol.

Rydym hefyd yn gweld potensial i rannu’r gwersi’n ehangach, yn enwedig o ran sut i wella maint ac ansawdd ymgysylltiad gwleidyddol gyda phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwleidyddion i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a dilyn i fyny o ran eu hymrwymiadau i ddisgyblion.